PENNOD XI.
HWYR Y FFAIR.
ERBYN yr hwyr brynhawn yr oedd Morgan wedi blino ar y ffair; ac er na wariaisai ef eto ei arian yn llwyr, penderfynodd adael y lle a chyfeirio ei gamau adref. Siomedig ydoedd hefyd, oblegid ar wahan i'r neidr fawr a dau epa, ni welsai ef ddim a oedd yn hollol newydd iddo. Disgwyliai ef weled llawer mwy nag a oedd yno, ac yn y disgwyliad hwnnw yr oedd ef wedi byw am yr wythnosau diweddaf. Ac am y teimlai ef bellach nad oedd y ffair wedi llenwi ei ddychymyg am dani, daeth rhyw atgasedd ati drosto, a hawdd felly oedd troi ohono ei gefn arni.
Ar ei ffordd adref cyfarfu â llawer o'i gydnabod, a rhyfeddai y rheiny un ac oll am ddychwelyd ohono mor gynnar cyn cychwyn o'r "fei" mewn gwirionedd. Ond, "fei" neu beidio, tuag adref yr wynebai y llanc; ac erbyn cyrraedd ohono Benywaun a Phont Bryngwyn, cymaint oedd ei flinder fel yr eisteddodd i lawr er adennill ei nerth. Yr oedd enw drwg iawn i Bont Bryngwyn am ei hunigrwydd ac am ei thraddodiad hagr am ladron penffordd. Ond yr oedd yn ddydd eto, a mwy o dramwy ar yr heol y diwrnod hwnnw oherwydd y ffair nag unrhyw ddiwrnod arall odid y flwyddyn yn gyfan; felly, ni ddaeth ofn i feddwl y llanc o gwbl, ac ef a eisteddodd ennyd i fwrw ei flino.
Yr oedd ar fedr tynnu allan yr ychydig geiniogau a oedd ganddo yn weddill i'w rhifo, a'r heol am ryw bellter oddeutu iddo heb neb arni, pan dybiai'r llanc glywed ohono yswisiad swn troed yn y brwyn yn ei