helaeth ar y pryd, ac amryw deithwyr ereill o fewn golwg. Yn wir, pe gwelsai ef y Gwyddel yn dangos ei wyneb hagr yno ar y funud o'i fyned ef heibio i'r lle, ni byddai hynny ond a redai drwy ei feddwl ar yr adeg. Wedi cerdded o Forgan heibio i Gae Maes-y-Dre unwaith yn rhagor, gan dynnu tuag Ynys Cynon yr ochr draw i'r cwm, ef a welodd am y tro cyntaf un o'r peiriannau rhyfedd hynny y clywsai ef gymaint sôn am danynt yn yr Offis, ac ymhlith y pydlers cyn hynny, ac a elwid ganddynt hwy yn locomotive.
Rhwng Aberpennar ac Aberaman y gweithiai y peiriant y tro hwn; ac er na chludai ef deithwyr eto, ef a symudai yn ol a blaen yn ol bwriad y gyrrwr, gan dynnu gyd âg ef nifer o wageni yr un pryd.
Nid oedd llinell y Taff Vale wedi ei hagor yn swyddogol yr amser hwn, ac felly parheid i ddefnyddio eto y gamlas i bob trafnidiaeth, fel ag y gwnaethid ers hanner canrif bellach. Ond yr oedd sôn drwy'r holl wlad am y peiriant rhyfeddol a oedd ar fedr dyfod i newid masnach yn gyfangwbl, a chof da gan Forgan am ymdrechion William Ellis i esbonio ei natur i gylch o bydlers ar egwyl neilltuol wrth y ffyrnau, ynghyd â'u sylwadau hynod hwy yn ei gylch.
"Dŵr a thân i gyd, fechgyn," ebe ef.
"Ond, y dyn dwl, lladd 'i gilydd a wnaiff y rheiny!" "Ie, ond byddant ar wahan, fechgyn—y dŵr mewn berwedydd, a'r tân odditano."
"Ac 'rwyt am i ni gretu y bydd peth felny yn symud ucian milltir yr awr? Bachan! fe fyddai hynny'n gynt nag a redodd Guto Nyth Bran yriôd."
"Bydd, wrth gwrs."
"Wel, dwêd di betha felny i dy famgu, 'nei di? A phaid a cheisio twyllo pydlers gonest, wa'th 'nei di ddim ohono â dy ffwlbri."