dd'wrnod. Mae'r byd yn dod yn rhyfedd iawn. Ac, O ie,—pan fyddwch yn Llundain, cofiwch fynd i'r Exhibition i Hyde Park. Ma'n syndod o's, oti wir! Ac os bydd gennych chwi amser rhwng y pigo our yn Awstralia, alwch lythyr ata' i—un Cymrâg nawr. fydda i'n falch idd 'i dderbyn e'. Ac er mwyn i chi gofio am un o'dd yn cydganu â'ch mam 'slawer dydd, cym'rwch hwn, a phidwch a'i acor nes bo chi ar y llong.'
"Diolch yn fawr, Mrs. Crosha. Fe fydda' i'n siwr o sgrifennu."
Yn gynnar bore trannoeth ymadawodd Morgan â chartref caredig Mr. Henry Crosha yn Lydney. Aeth Mr. Henry ei hun i'w hebrwng i'r orsaf, ac yn fuan yr oedd un Cymro yn ychwaneg wedi troi ei gefn ar ei wlad a'i gynefin, i frwydro â'r byd mawr hwnt i Hafren. Arhosai'r trên ymhob gorsaf y pryd hwnnw; a chan mai celyd oedd y seddau, a chlogyrnaidd y teithio, nid hir y bu Morgan heb ddechrau blino. Ar y cyntaf ef a syllodd yn fanwl ar ei gyd-deithwyr, ond ni bu un cynnig am ysgwrs o'i du ef nac o'u tu hwythau. Ac onid oedd Mr. Ffrank wedi ei gynghori i ochel y dieithryn a'i gwthiai ei hun arno? Felly ef a geisiodd ei ddiddori ei hun yn y wlad y rhedai'r trên drwyddi. Ac yn wir, wedi gadael ohono Gaerloyw ar ol, gwlad agored, eang, fras ydoedd hi. Ni thybiasai'r llanc y byddai iddo byth weld y fath gyfoeth o dir gwenith ag a welsai ef y dydd hwnnw.
Ond y mae undonedd hyd yn oed i dir agored, a boddlon oedd Morgan, yn Reading a Windsor, gyfnewid tir agored am amrywiaeth dyffryn unwaith yn rhagor. Pan gyrhaeddodd ef Slough, gwybu fod ei daith yn tynnu at ei therfyn, a bod Paddington yn agos. Rhedodd y trên tua hanner awr ymhellach cyn dechrau cyrraedd ohono dai, ond o hynny ymlaen yr oedd yr aneddau