Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymofynnwn yn fanwl, fe welwn paham y cofiwyd y penillion hyn. Gwelwn hefyd fod nid ychydig o rinwedd ym meddwl y bobl a'u cadwodd ar gof. Atgofion yw 'r penillion bychain hyn, sudd profiad wedi ei wasgu i le bach, fel pe tynnid peraroglau rhosyn a'i botelu a'i gadw. Bydd darllen rhai ohonynt yn peri i chwi feddwl am hen gist a fu â chlo arni am flynyddoedd, a chwithau'n ei hagor ac edrych drwyddi—dyfod o hyd i fwndel o hen lythyrau, cudyn o wallt, neu flodyn wedi ei wasgu rhwng dwy ddalen.

"Fe ddaw 'r llong yn ôl i'r Foryd
A daw'r gwair a'r ŷd o'r gweryd,
Ond er maint y mynd a'r dyfod,
Ni ddaw Gwen o'i gwely tyfod."

Casgliad bychan yw'r llyfryn hwn o Englynion yn bennaf, a godwyd o dro i dro wrth chwilio llawysgrifau, ond ceir yma ambell bennill oddiar y cof fel na allaf, ysywaeth, nodi ymhale y cefais. Ni chynhwyswyd onid ychydig ddarnau ym Mesur Cywydd Deuair Hirion, am y bwriedid pan oedd bryd ar lafur felly gyhoeddi cyfrol fach arall o'r rheiny, rywdro. Gadawed allan y penillion telyn hefyd, am fod casgliad helaethach ac astudiaeth berffeithiach fy nghyd-lafurwr, Dr. Parry Williams, i ddyfod allan cyn bo hir.

Ysgrifennwyd corff y rhagymadrodd rai blynyddoedd yn ôl, ac ni ddeuthum yn y cyfamser ar draws dim a barai i mi gymedroli llawer ar y golygiadau sydd ynddo. Credaf y bydd yr englynion a'r penillion eraill yn ddiddanwch i'r sawl a garo ddawn a medr, a wêl fwy nag un ochr i bethau yn y byd difrif-digrif hwn, ac a fedro chwerthin hyd yn oed am ei ben ei hun, ambell dro.

Nid yw 'r gynghanedd bob amser yn ateb i safonau 'r ganrif ddiwethaf, a dygir ffurfiau'r iaith lafar i mewn i rai penillion weithiau. Nid gwaeth mo'r gwaith er hynny, canys y mae synnwyr ynddo, a gwiwdeb ymadrodd, min, cynildeb ac afiaith, lleferydd dynion nad oeddynt na di-gywilydd na digalon, ac na thywynnodd ar eu meddwl mai eu busnes yn y byd oedd ymddiheuro tros fod ar ffordd rhywun arall.