Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWYNFYD
(Most. 131)

Weithion, gwnelont eu gwaetha', ar unwaith
O Arennig i'r Bala,
Nid wyf brudd, nid ymguddia'[1]
Os f' enaid gannaid a ga'.

—DIENW.


HEB EI HAIL
(C.M. 14)

Ni bu 'r Enid na Branwen
Na Chymraes â chwi mor wen.

—IEUAN TEW BRYDYDD.


HEN GARIAD
(Most. 131)

Cenais, ban ellais, benillion, y bore,
Bwriais fawr beryglon;
Ac nid hawdd im ganu tôn
Ac wylo yn y galon.

Chwiliwch, ystyriwch ddwys doriad calon
A 'ch coeliodd yn wastad;
Gwrandewch, cry gwirion Dad,
Achwyn gŵr, eich hen gariad!

—DIENW.


HEN YSTORI
(C.M. 24)

Dy geraint, mewn braint a bri, Gwen annwyl,
Gwenwynig yw 'r rheini,
Y sydd chwannog i 'm crogi,
F' enaid aur, er dy fwyn di!

—DIENW.


  1. nid ymguddia', ni phlygaf ben.