Prawfddarllenwyd y dudalen hon
HIRAETH
(Most. 131)
Pob mwynder, ofer afiaith, pob meddwl,
Pob moddus gydymaith,
Popeth, yn wir, ond hiraeth,
Yn gynnar iawn oddi genni 'r aeth!
—PRYDYDDES DDIENW O SIR DDINBYCH.
IDDI HI
(Most. 131)
N' ato[1] Crist awr drist fynd drosti, na chlwyf,
Na chlefyd fyth arni,
Na digwyddaw dig iddi,
Na 'i chasáu o'm achos i.
—DIENW.
LLE BO'R GALON
(P.M.)
Lle bo cariad, brad mewn bron, yn llechu
Mewn lloches dirgelion,
Fe dry llusgiad llygad llon,[2]
Llwybr y goel, lle bo'r galon.
—DIENW.
MERCH LAN
(C.M. 23)