Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLAWENYDD
(C.M. 11)

Hiraeth sy helaeth am Siôn a Marged
A'u mawrgost a'u rhoddion,
Nid iach deutal fy nghalon,
Nid llawen byd lle ni bôn'.

—RHISIART PHYLIP.


CYFAILL MARW
(C.M. 11)

Od aethost, mae 'n dost, i dud; y gwyliau,
Gwelais y'm atebud,[1]
A heddiw, ni 'm gwahoddud,
Un wyt ai 'n falch, yntau 'n fud!

—WILIAM CYNWAL.


BEDD BARDD.
(N.L.W. Add M.S. 169, 65)

Cei ras hen Horas tan weryd Tudur
Tad yr holl gelfyddyd;
Ymadrodd dysg, a'i medryd,
Cais tan ben cist awen byd.

—DIENW, i Dudur Aled.


(C.M. 25)

Y maenddarn cadarn, lle cedwi ddawn oll,
Dduw, n' allwn dy godi!
Ar fedd gro fal to 'r wyt ti,
Ar warr Rys Goch Eryri.

—WILIAM LLYN.


  1. atebud, gwahoddud. Hen derfyniad yr ail pers. yn yr amser amherffaith oedd –ut, -ud. Aeth yn –it, fel yr ysgrifennir bellach, drwy ddylanwad i ar ei ôl —atebut ti atebit ti.