Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DRAENLLWYN
(Pen. 99)

Tew grys, to dyrys, tŷ ederyn gwyllt,
Heb nac allt na dyffryn,
Tlws gardd[1] gŵr, teils gwyrdd gorun,
Tlawd, heb un brawd, ar ben bryn.

—SYR OWAIN AP GWILYM.

Rhediad, rhyw doad, rhod ewybr rhadlon,
Rhydliw wisg arian-grwybr;[2]
Rhod wenllaes ar hyd unllwybr,
Rhyw grib fal pe 'n rhwygo 'r wybr.

—SION BRWYNOG.


EIRA
(C.M. 24)

Gwynflawd, daeargnawd, oergnu, ym mynydd,
Manod wybren oerddu;
Eira yn blât, oer iawn blu,
Mwthlan[3] a roed i'm methlu.[4]

Eira gwyn ar fryn oer fry a'm dallodd
A'm dillad yn gwlychu;
Myn Duw gwyn, nid oedd genny
Obaith y down byth i dŷ.

—GWERFYL MECHAIN.


GWENYN
(Pen. 77, 301)

Cwning, can' nwsing,[5] cywion isel cainc,
Cyrff ifainc craff afel,
Cnwd o wybed cnawd Abel,
Cario y maent cwyr a mêl.

—BLEDDYN DDU.


  1. Tlws gardd, dealler tlws fel enw, nid ansoddair.
  2. Sylwer ar fanylder "Rhydliw wisg arian-grwybr," gwisg o liw rhwd a chrwybr arian ar hyd-ddi.
  3. mwthlan, gorfeddal, mwythus, mursonnaidd, medd Dr. Davis. Clywir eto yn Sir Ddinbych, fel enw, am ryw fenyw gnodiog, feddal
  4. Methlu, maglu, rhwystro.
  5. can nwsing, can' dwsin.