Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ANGHYWIRDEB
(C.M. 14)

A fo gwirion a geirwir,[1] a medrus,
Ei 'madrodd a goelir;
Ni cheir, myn Mair, un gair gwir
Yng nghawell dyn anghywir.

—DIENW.


ANOBAITH
(N.L.W. Add. 436)

Er na fynn Duw gwyn deg weniaith bechod
Am bob achos diffaith,
Ni fynn Duw gwyn gwedi 'r gwaith
Mynnu neb mewn anobaith.

—DIENW.


AR FOR[2]
(C.M. 24)

Ar for yr ydym, hwyr fradwyr truain
Yn treio[3] ein bywyd,
Mewn tonnau, poenau penyd,
Gwae ni ein boddi 'n y byd!

—HUW LLIFON, Clochydd Llannefydd


BALCHIO
(Most. 131)

Wrth edrych mewn drych mwyn dro ei dull,
A'i dillad yn mwstro,
Rhaid fydd, lle rho Duw efô,
Fawl a chywaeth, falchîo.

—DIENW.


  1. a fo gwirion a geirwir. Esgeulusid f yn y gynghanedd yn aml gynt.
  2. Gwelir nad odla 'r llinell gyntaf a'r lleill
  3. treio, mynd ar drai, yn llai.