Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BOCH A LLYGAD
(Pen. 99)

Ymgais di, Ddafydd, yn amgen â Thwm,
Od aeth yma gynnen,
O'i foch, cais dynnu fflochen
I gau tolc dy lygad hen!

—SIMWNT VYCHAN, pan oedd ddychanu rhwng Tomos Grythor y Foch
a Dafydd ap Niclas, gwehydd un llygeidiog.[1]


BONEDD
(C.M. 24)

Doeder[2] a fynner am fonedd i ddyn,
Oni ddwg beth rhinwedd,
Fo a'r gŵr afrywiog wedd
Yn daeog yn y diwedd.

—DIENW


BRAD
(Pen. 72)

Suddas fradwr, gŵr a gai arian gwarth
Er gwerthu 'r Mab Drogan,
Tithau, mae 'r gair it weithian
Fwrw ohonot ti Fair yn tân.

—RAFF AP ROBERT.


BYD FEL Y BO
(C.M. 24)

Tra bo iraidd gwraidd 'ny gro, pêr ydywj
Prioded a'i caro;
Rhaid i'r ferch a orddercho
Gymryd y byd fal y bo.

—DIENW.


  1. Ergyd y pennill yw nad oedd gan y naill nemor le i achwyn ar y llall.
  2. doeder, ffurf lafar gyffredin gynt am dyweder.