Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYNGOR DA
(Ll.S. 169, 23)

Cymer ddysg, dod ddysg, dywed dda, ŵr prudd,[1]
Ym mhob rhaid, gobeithia;
Llafur di a gweddía,
Medd Duw, llyna 'r moddau da.

—DIENW.


CYWIRDEB
(C.M. 14)

O'r swyddau goreu a gerir o'r byd,
Goreu bod yn gywir;
Ni freinia nef yr anwir,
Ni fynn Duw gwyn ond y gwir.

—DIENW.


CHWEDLEUA
(C.M. 24)

Meddwch, dywedwch ai da i'r hostwr
Eistedd i chwedleua
Ar hyd y dydd, hirddydd ha,
Tan nos yn y tŷ nesa'?

—DIENW.


CHWYRNWR
(C.M. 3)

Deffro, Dwm, gidwm gedym ei ddannedd,
Tyn oddiyna d' erddyrn,[2]
Dyn fal ci, dan weflau cyrn
Drwy 'i gwsg yn dragio esgyrn.

—GUTO'R GLYN, i was oedd yn ei gwsg yn
rhincian dannedd.


  1. prudd, hen ystyr y gair oedd doeth, o'r Llad. prudens. Am fod dynion call yn fynych yn drist y cymerth y gair yr ystyr honno, ond odid.
  2. erddyrn, ffurf luosog arddwrn.