Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DA GAN EURYCH
(MOST, 131)

Tripheth mewn cantir[1] a hoff—a eurych[2]
Arwydd yfwr iawndda—
Gŵr geirwir a gwraig ara'
A bod y ddiod yn dda.

—GRUFFYDD HIRAETHOG.


DADWRDD
(C.M. 24)

Pwy bynnag, gorwag, a garo dadwrdd
A doedyd a fynno,
Fo wrendy 'n fflwch, trwch yw 'I tro,
Poeth naws min, peth nis mynno.

—HUW LLIFON.


DIAL

Y dyn da, nid yw 'n dial,
Dywed ef mai Duw a dâl;
Od yw wir y mynn Duw dâl,
Onid yw gyfion dial?

—DIENW.


DWST
(Most. 131, 828)

O ddwst a lludw, yn ddyn, â llawnwyd,[3]
Y lluniwyd pob rhyw ddyn;
O'r dwst y doeth pob noethyn,
I'r dwst y bwrir pob dyn.

—DIENW.


  1. cantir, can' tir
  2. eurych, gof aur i ddechreu, yna tincer
  3. â llawnwyd, yn llawn gwŷd.