Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWYN EI FYD
(C.M. 23)

Gwyn ei fyd, gweryd Duw'r gwirion, a gaiff
Un a gâr ei galon,
Iechyd hardd, a chyda hon,
Dŵr i'w yfed o'r afon.

—DIENW.


GWYNFYD

Gosodwyd, nodwyd i eneidie ffyddlon
Yn berffeiddlwys gartre
Aur blas, a gras yw'r grisie,
Disgleirwych yn entrych ne.

Nid gwynfyd a wnaed i genfaint anianol,
Mae 'n wynnach brenhinfraint.
Ni ddaw yno 'n ddi henaint
I lan y sêr lai na saint.

—ELLIS WYNNE O LASYNYS.[1]


GWYR MAWR
(N.L.W. Add. 436)

Pob llanc yn ifanc a fo yn ŵr ffres,
Ni phrisia gwmnïwr,
Pob bril yn mynd yn filwr,
A phob nag, a phawb yn ŵr.

—DIENW.


IECHYD
(C.M. 24)

Duw frenin, ddibrin ddiddybryd, da'i wyrthiau,
Diwartha fy mywyd,
Arglwydd ben arglwyddi byd
Drem uchel, dyro i'm iechyd.

—HUW LLIFON.


  1. Gwelir fod Ellis Wynne yn arfer ffurfiau llafar.