Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y SIAWNS
(Most. 131)

Tybiais gael er mael i mi gywely
A golud mawr iddi,
A dafad wedi dofi —
Gafr ar siawns a gerais i.

—DIENW.


SYCHED
(C.M. 23)

Er bod Rhys nwyfus yn yfed ar dasg[1]
Er y dydd y ganed,
Er cael bir y sir yn siêd,[2]
Os iach, nid llai ei syched.

—WILIAM CYNWAL.


SYNNWYR
(Pen. 77, 301)

Synnwyr sarff sy 'n oreu som,
Synnwyr merch sy un air a'i mam;
Synnwyr mab sy'n oreu mwm,
Synnwyr Duw sy 'n oreu dim.

—DAFYDD AB EDMWND.


TAFOD DA
(C.M. 24)

Hapus, ddawnus, ddiana' a medrus
Ymadrodd mewn tyrfa,
Cydnabod rhan tafod da
Rhag ateb yn rhy gwta.

—HUW LLIFON.


  1. yfed ar dasg, yfed a'i holl egni.
  2. yn siêd yn rhydd, faint a fynnai. O'r Saes. escheat.