Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TIR DA
(Most. 131)

Er poeni 'r ychen a'r penna' i redeg,
A'r hadyd o'r teca',
Yr ysmoneth[1] a fetha
Oni chedwir ar dir da.

—ELIS AP RHYS AP EDWART.


Y TLAWD
(C.M. 23)

Dyro ddillad rhad angenrheidiol dro
I druan anghenol,
Dyro fwyd, dirwy fydol,
Di a gei nef deg yn ôl.
—SIMWNT FYCHAN


Most. 144)

Gwae henddyn gwydyn go oediawg, gwargul,
Gwirgas y cyfoethawg;
Gwae pan orffo rhodio rhawg
A'i ben gwyn heb un geiniawg.

—TWM SIÔN CATI, i Sion Dafydd Llwyd Hen.


TRETHI
(C.M. 14)

Treth faith, treth nawaith,[2] treth newydd, treth fawr,
Treth fory a thrennydd;
Trethau fil yn ei gilydd,
Treth ar dreth hyd feth a fydd.

Treth bell, treth gastell, treth ged, treth gadarn,
Treth i gadw dieithred;
Treth gario, treth gywiried,
Treth i ladron cryfion Cred!

—ROBERT PUW.


  1. ysmoneth hwsmonaeth.
  2. nawaith naw gwaith.