Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TRUGAREDD

Fy Nuw, gwêl finnau, Owen; trugarha
At ryw grydd aflawen,
Fel y gwnawn pe bawn i'n ben
Nef, a thi o fath Owen!

—DIENW.


TRWSIAD
(C.M. 23)

Ni charaf forwyn ry chwerwaidd ei gwên,
Ag wyneb hen-ddynaidd,
A phen hwch mewn ffa neu haidd,
A phais Iwyd a phâs wladaidd.

—DIENW.


TWYLL
(N.L.W. Ajdd. 436)

Hawdd draw yw twyllaw mewn tywyllwg ddyn,
Ni ddaw ffals i'r amlwg;
Diafol, ond o ran golwg,
Dan ei druth ydyw'r dyn drwg.

—DIENW.


TYNGED
(C.M. 11)

Ni odrig[1] meddig am a êl at Dduw,
Ni ddiainc o fatel;
Nêr a rifer i ryfel,
Nos na dydd ni wys nad ôl.

—IORWERTH FYNGLWYD


  1. ni odrig, nid erys, nid oeda