Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ANGOF
(C.M. 14)

Ba gerdd, goeg angerdd, ba gyngyd[1] wna dyn
Wedi dwyn ei fywyd?
Bwy a edrych lyfr brych brud,
Bwy ddarllen mewn bedd oerllyd?

—DIENW.


Y BEDD
(C.M. 24)

Y crys gwyn a'm tynn o'm tŷ, a llinin,
A llunio fy ngwely,
A'm gwasgu yma i gysgu
Yn fyddar i'r ddaear ddu.

—DIENW.


Y BYRFYD
(Most. 131)

Daethost drwy fawrfost i fyrfyd yn noeth
I wneuthur dy benyd,
Ag yna, er sy gennyd,
Ar awr bach yr ei o'r byd.

—DIENW.


DARFOD
(C.M. 23)

Pan elwyf drwy glwyf dan glo i waglawr
Yr eglwys mewn amdo,
Ni ddaw anadl oddiyno
I alw ar Grist o lawr gro.

—DIENW.


  1. cyngyd ymaros, oedi. Dengys y gynghanedd yma, megis gan feirdd eraill, mai cyn-gyd nid cyngyd, a ddywedid.