Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y DEWIS
(C.M. 24)

Dan bren yr ywen yr af i'm diwedd,
A'm dewis orffwysfa;
Ac yn fy medd gorweddaf,
Fy hyd o'r gweryd a gaf.

—HUW LLIFON.


DYCHWEL
(Most. 131)

O'r ddaear gynnar y'm ganed yn noeth
I wneuthur fy nhynged,
Ac i'r ddaear glaear gled
I'r un man yr wy 'n myned.

—RAFF AP ROBERT, y dydd cyn ei farw.


DYMUNIAD
(C.M. 23)

Arglwydd gwyn, hylwydd gynheiliad[1] nefoedd,
Yn ufudd yn wastad,
Gras a dawn gwir Iesu, dad,
Yn y man yw 'nymuniad.

—DIENW.


DYMUNIAD CLAF
(N.L.W. Add. 436, 109)

Edryched, mynned im' oes drwy iechyd,
Edryched ar f' oerloes,
Oni fynn estyn f ' einioes,
Byrhaed yn rhwydd, f 'Arglwydd, f 'oes.

—HYWEL AP SYR MATHEU, ar ei glaf wely.


  1. cynheiliad cynhaliwr.