Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y SIWRNAI
(C.M. 23)

Ar awr, mi a wn yr a', a madws[1]
Ymadael oddiyma;
Ofn y siwrnai sy arna',
Am roi o Dduw im awr dda.

—GRUFFUDD AB IEUAN
AP LLYWELYN VYCHAN?


Y TY OLAF

Bendiged Duw'r tŷ newydd,
Heb ddail, heb wiail, heb wŷdd,
Heb nenbren, heb obennydd,
Heb le tân, heb weled dydd.
—ADDA FRAS?

  1. madws, yn llawn bryd, yn hwyr glas