Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Englyn, a hyd yn oed y Gynghanedd, yn weddol eglur. Ond o ba le bynnag y daeth yr Englyn, da fu ei ddyfod, canys dysgodd gynildeb i brydyddion lawer, ac ynddo ef y ceir rhai o'r pethau goreu yn Gymraeg.

Clywais ofyn yn ddiweddar, gan ddyn synhwyrol a meddylgar hefyd, pa gamp sydd ar bennill o un math, a phaham na wnâi iaith rydd gyffredin y tro i bob dyn at fynegi ei feddwl. Yn wyneb rhodres cymaint o'r hyn a sgrifennir am lenyddiaeth ym mhob iaith, y mae gennyf i lawer o gydymdeimlad â'm cyfaill a ofynnodd y cwestiwn i mi. Y mae 'n lled sicr fod beirdd a llenorion goreu'r gwledydd wedi gwneuthur eu gweithiau heb ddychmygu erioed am y pethau rhyfedd a ddywed yr esbonwyr a'r beirniaid amdanynt. Eto, pam y mynasant hwy arfer iaith fesuredig o gwbl? Ni wyddis, ond y mae'n fwy na thebig fod a wnelai hynny rywbeth â datblygiad iaith a thwf meddwl i ddechreu. Diau fod dyn yn eithaf crefftwr â'i ddwylaw cyn ystwytho o'i dafod i siarad erioed. Tybir yn wir mai datblygiad iaith a barodd iddo golli'r medr llaw a llygad a enillodd, nes gallu ohono mewn amseroedd cyn cof ysgythru lluniau mor gymesur â dim a geir heddiw tan law 'r lluniedyddion goreu. Pan ddaeth iaith hithau yn ei thro, nid anhebig i ddyn ei darostwng hithau i'w nwyd grefft. Sonia un o'r beirdd Groeg am hoelio geiriau 'n gadarn wrth ei gilydd, ac y mae termau crefft yn bethau cyffredin yn y sôn am gelfyddyd prydyddiaeth ym mhob iaith. Felly, y mae rhyw reidrwydd wrth wraidd mydr, yr un rheidrwydd ag y sydd tan fôn pob crefft. Fe ellir dywedyd mewn iaith rydd beth a ddywedir mewn mydr. Y mae 'n wir hefyd mai gwell fyddai pe na ddywedid yn y naill fodd na'r llall lawer iawn o'r hyn a ddywedir ym mhob un o'r ddau. Eto, y mae rhai pethau a ddywedwyd y byddai 'r rhan fwyaf o ddynion yn barod i gytuno mai iawn oedd eu dywedyd, mewn rhyw fodd neu gilydd. Ac am y modd. Pe dywedai dyn: "Y mae dynion y bo 'u tueddiadau yn cydfynd â'i gilydd yn naturiol yn ymgasglu at ei gilydd," ni allai neb ei gyhuddo o ddywedyd peth ofer, nac o'i ddywedyd yn wael iawn ychwaith; ond pan ddywedodd rhyw hen Gymro, ryw dro, "Adar o'r unlliw, hedant i'r unlle," fe wnaeth fwy na pheidio â dywedyd peth ofer; fe wnaeth hyd yn oed fwy na dywedyd peth gwir — fe wnaeth yr un peth â phe cawsai hyd i ddarn o faen gwerthfawr a'i lyfnhau a'i lathru a'i ddodi mewn amgant aur. Yr oedd yr hen Gymro hwnnw yn graffwr ac yn grefftwr. Dyna unig amddiffyniad mydryddiaeth dda. Ond, wrth gwrs, prin yw popeth da. Ac nid yn unig prin o ran swm, ond prin hefyd o ran sŵn, canys nid yw geiriau onid sŵn, ac ofer yw sŵn heb synnwyr. Felly, y mae gan y cenhedloedd sydd, fel y mae'r Iapaniaid a'r Sineaid, medd y rhai a ŵyr, yn credu mai cwta a chryno a ddylai prydyddiaeth fod, gryn lawer i'w ddywedyd trostynt eu hunain. Adroddais i'r cyfaill, y soniais amdano eisoes, yr englyn hwn, o waith Tudur Aled:—