Tudalen:Y Mabinogion Cymreig-sef, Chwedlau rhamantus yr hen Gymry.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr awdures yn cyflwyno y gwaith i'w dau blentyn, Ivor a Merthyr,' y ddau bellach yn wyr adnabyddus i'r byd politicaidd—Syr Ivor fel ymgeisydd Seneddol a'i frawd fel yr A S. presenol tros Wareham. Ar gyfrif lledneisrwydd y cyfansoddiad, a'r teimlad Cymroaidd hyfryd sydd yn nawsio ohono, nis gallwn wrthsefyll y demtasiwn o'i ddyfynu fel y mae yn Seisnig:

My dear Children,—Infants as you yet are, I feel that I cannot dedicate more fitly than to you these venerable relics of ancient lore, and 1 do so in the hope of inciting you to cultivate the Literature of Gwyllt Walia, in whose beautiful language you are being initiated, and amongst whose free mountains you were born.

May you become imbued with the chivalric and exalted sense of honour, and the fervent patriotism for which its sons have ever been celebrated. May you learn to emulate the noble qualities of lvor Hael, and the firm attachment to your Native Country. which distinguished that Ivor Bach, after whom the elder of you was named.

Byddai yr un mor anhawdd dweyd pwy oedd awdwr neu awdwyr y MABINOGION a dweyd pwy a gyfansoddodd ein hen ddiarebion. Buont yn nofio ar wyneb yr oesau am ganrifoedd lawer, fel cerddi Homer a thraddodiadau Ꭹ Talmud. Yr hen yn eu traddodi i'r ieuanc fel hen grair y llwyth; a'r ieuanc hwnw drachefn yn ei dro yn eu cyflwyno i'w olynwyr yntau. Wrth gwrs, yr oedd eu haddurniadau yn nhreigliad amser fel hyn yn cynyddu—eu barddoniaeth yn dyfod yn fwy llachar, y manylion hwyrach yn newid; ond diau fod y teg yn myned yn decach a'r anferth yn fwy anferthol. Mae'n dra thebyg nad oedd Morfran ab Tegid, druan, ar y cyntaf ond rhyw remwth o lencyn anhygar, a chanddo wallt garwgoch a llygaid croesion; ond o oes i oes, aeth yn hyllach, hyllach, a chyflwynir ef i ni fel un o'r tri a ddiangodd o Gad Gamlan—yr oedd mor hagr fel y tybiai pawb mai angel coll o uffern oedd, ac y ffoent rhagddo. Sandde, o'r ochr arall, llanc nwyfus, ysgafndroed, prydferth, a enillai ffafr traddodiad yn barhaus; a chawn ei fod yntau wedi dianc o Gad Gamlan, gan ei hardded, ei laned, a'i decced, ni chodai neb law yn ei erbyn, gan dybied mai angel o'r nef ydoedd.' Yr oedd adrodd pethau fel hyn a'u gwrando yn ddull dyddan o dreulio yr amser segur gynt ar aelwyd yr Hafod a'r Hendref; ac i godi gwaed a thanio ysbryd y milwr Cymreig yn y gadlys a'r gadymgyrch. Pan fyddent yn gwylio yn rhai o galarnfeydd eu gwlad anwyl am gyfleu i ruthro ar y gelyn yn y dyffryn islaw; pan yn treulio y cyfnos yn Mhalestina tan Faner y Groesgad; pan yn Ffrainc gyda'u cydwladwr Syr Dafydd Gam yn ymladd brwydrau brenin Lloegr; neu yn dilyn eu cydwladwr arall enwocach fyth Harri Tudur yn ei ymgyrch lwyddianus i ddwyn coron Prydain yn ol i hen linach Cadwaladr Fendigaid; byrhaent yr oriau a liniarent eu blinderau hefo'r hen hanesion tyfadwy hyn.

Felly gwasanaethai y MABINOGION ddau amcan neillduol, sef cadw yn fyw rai o gofion arwrol a chymdeithasol hen genedl ddewr ac anrhydeddus, a gweinyddu dyddanwch a gwybodaeth i'r sawl a'u cadwent yn yr 'adgof am a fu.'

Am ba nifer o ganrifoedd y buont yn nofio fel hyn ar wyneb amser, nid all neb yn awr ddweyd; ac ni wyddis ychwaith i bwy yr ydym i ddiolch am eu hysgrifenu, na pha bryd rhwng y 5ed a'r 15fed ganrif y gwnaed hyny gyntaf. Y casgliad hynaf ar gael ohonynt ydyw y 'Llyfr Coch o Hergest,' yr hwn sydd yn cynwys hefyd rai cywyddau o waith ac yn llawysgrif Lewis Glyn Cothi, arwyddfardd enwog yn ei flodeu yn niwedd y 15fed ganrif. ganrif. Parodd hyn i rai greďu mai y bardd hwnw a ysgrifenodd y Llyfr Coch i gyd; ond barn y mwyaf