Tudalen:Y Mabinogion Cymreig-sef, Chwedlau rhamantus yr hen Gymry.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rif yw mai gwaith llaw gwahanol ysgrifenwyr proffesedig ydyw, a'i fod wedi ei ysgrifenu ar wahanol amserau. Y mae y Llyfr Coch yn nghadw yn Llyfrgell Coleg Iesu, Rydychain, wedi ei ysgrifenu ar femrwn, ac yn cynwys 721 tu dal. tebyg i'r cyfysgrif ohono a welir ar ddechreu yr argraffiad hwn. Fe wel y darllenydd ar unwaith mai nid gorchwyl hawdd ydoedd darllen a deongli cyfrinion hen lawysgrifen o'r fath. Pa fodd bynag, gwnaed hyny yn hynod o lwyddianus, gan y bardd a'r llenor anfarwol Ioan Tegid, yr hwn a fu yn preswylio yn Rhydychain am rai blynyddau. Ymgymerodd Mr. Jones â'r gorchwyl llafurfawr ar gais Mr. Justice Bosanquet, a'r copi hwnw a ddefnyddiodd yr Arglwyddes Guest.

Ystyr y gair Mabinogi, yn ol Thomas Richards, ydyw dysgeidiaeth mab. Yn y Llyfr Coch, yr unig chwedlau a elwir ar yr enw hwnw ydynt, Pwyll, Branwen, Manawyddan, a Math; ac nid yw y pedair mewn gwirionedd ond dolenau o un chwedl. Yr addysg a roddir i bob mab a ddarlleno y rhai hyn ydyw ffyddlondeb mewn cyfeillgarwch, cywirdeb mewn addewid, ac anrhydedd i'r rhyw fenywaidd. Yr oedd y rhiniau hyn bob amser yn cael eu cydnabod a chyrchu atynt gan Farchogwriaeth (chivalry) y Canol Oesoedd; ac er fod tuedd yn yr hen urdd hono i ddwyfoli nerth corphorol a gwneud arwr o'r hwn a allai drin y cledd fedrusaf, dylid cofio eu bod hefyd wedi gwneud y bradwr a'r torwradduned yn wrthrychau dirmygus ac atgas; a dyrchafu y ferch neu y wraig i fod yn deilwng gydmar bywyd i ddyn yn lle caethes iddo fel o'r blaen. Ond fel llawer urdd o'r blaen, yn nhreigliad amser, dirywiodd hithau, a blinodd y byd arni; a bu gwatwareg finiog Don Quixote yn angau iddi yn y diwedd.

Y mae cymaint gwahaniaeth rhwng y MABINOGION hyn a'u gilydd fel y rhenir hwynt gan Skene i ddau ddosbarth. Math o gysawd ydyw un dosbarth ac Arthur yn haul ynddo, a'i wrolion a'i ddewrion fel planedau yn troi o'i gylch ac yn iswasanaethgar iddo; tra y mae'r dosbarth arall yn son am bobl a digwyddiadau llawer boreuach; ac nid yw yn anhawdd dodi pob chwedl yn ei dosbarth priodol. Yn y dosbarth hynaf y mae Pwyll, Branwen, Manawyddan, Math, Lludd, Cilhwch a Breuddwyd Rhonabwy. Yn yr ail ddosbarth, ceir Iarlles y Ffynon, Peredur, Geraint a Macsen Wledig. Nid yw enw Arthur yn digwydd ond yn y ddwy olaf o'r dosbarth cyntaf; ac ynddynt hwy, arwr cydmarol ieuanc ydyw. Dyna yn fyr ydyw barn awdwr y Four Ancient Books of Wales am danynt. Ac yn dra thebyg y barna Thomas Stephens hefyd. Y mae gan Lady Guest ddamcaniaeth led ddyeithr ar y pwnc. Dywed hi fod yr holl chwedlau wedi cael eu bodolaeth yn Nghymru, a rhydd y flaenoriaeth ar gyfrif eu henaint i Gilhwch a Rhonabwy; ond tra yr arosodd y ddwy hyn gartref, aeth Iarlles y Ffynon, Peredur a Geraint ar grwydr i blith cenedloedd gogleddbarth Ewrob; ac wedi absenoldeb o ganrifoedd, dychwelasant—cyfieithiwyd hwynt i'r Gymraeg yn nghyda'r arferion a'r defodau Normanaidd a chwanegwyd atynt yn nhaith eu pererindod. Barned y darllenydd pa un o'r ddwy ddirnadaeth hyn sy'n gywir. Diau fod rhyw ddarfelydd ramantus iawn wedi bod ar waith yn llunio a dyfeisio Cilhwch ac Olwen; a bod y chwedl hono yn rhagori ar bob un o'i chwaer-chwedlau, nid yn unig mewn hyd, ond hefyd yn nghyfoeth ei drychfeddyliau, beiddgarwch ei dychymyg a'i chreadigaethau gwylltion a synfawr. Y mae yn dra anmheus ai nid fel alegori y dylid ei darllen o'r Bardd (Cilhwch) yn myned i ymhwedd â Natur (Olwen), yn ol troed yr hon pa ffordd bynag y cerddai y tyfai pedair o feillion gwynion." Nid yw y chwedl hono a elwir Hanes Taliessin wedi ei chyfleu yn y naill ddosbarth na'r llall, ac nid ydym ninau ychwaith wedi ei haralleirio i Gymraeg diweddar. Prin y rhaid dweyd mai yr achos o hyny yw fod ei Chymraeg hen mor