Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Monwyson.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Odid fod neb nad edwyn
Trwy'r iaith enw'r Doctor Wyn;
A'i wraig lân, rywiog, luniaidd,
Goreu gwraig a goreu gwraidd.

Desgrifia y sawl yr oedd yn erfyn drosto yn bert iawn:—

Cenad ar fwriad wyf fi,
A gobaith o Gaergybi,
Dros wr hen dan ei benyd,
Ddiau fodd, a fu'n dda'i fyd;
Ei enw a'i lysenw sydd
'Rhyd y byd lle'i rhed bedydd.
William Dafydd, lwm dyfiad.
Bod Haul, gwag ei gaul a ga'd.

Ac ym mhellach dywed am dano:—

Heddyw mae'n llwm ei gwman,
Ac o gorph yn ddigon gwan;
Berau manion, weinion wedd,
O dyfiad priciau 'dafedd;

Crafangau gwag angen gwan,
Llun ail i un Llaneilian,
A'i gorph fal dyn heb orphen,
Ni ddeil prin ddwys bwys ei ben.

Yna dywed iddo fwriadu "enwi'n frau gampau'r gwr," ond ychwanega y byddai y cyfryw swydd:—

Fal rhifo sêr,
Ni henwn byth mo'u haner.

Er hynny, anturia ar y gwaith, a cheir ganddo ddesgrifiad digrifol a maith o'r gwrthddrych, ei swyddi, a'i fedrusrwydd, mewn gwahanol gyfeir— iadau, desgrifiad sydd yn sylfaenedig, mae yn debyg, yn fwy ar ddychymyg na dim arall. Am ei angen dywed—

Crynu'r aos, ac ymcreinio,
Crynu bydd y dydd dan do;
Crynu, nid o lu Duw lwyd :
Ond crynu rhag rhyw anwyd.