Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Monwyson.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn dilyn hyn cawn engraipht o ddawn duchanol y bardd, yn y cyfeiriad at hoffder y Bol Haul o'r ddiod feddwol, a'i barodrwydd i fod yn bobpeth i bawb, ac i daflu egwyddor dros y bwrdd, ond iddo gael ei ddigoni â diod gadarn:—

Fe droe'n Iuddew, drwyn eiddil,
Ar air, ond cael cwrw, o'r il;
Ar roe fir i'r oferwr,
A'i troe'n bagan aflan wr;
Fe droi'n Dwrc, yn ei gwrewd,
Fal ci, ond cael brandi brwd;
Try'n Brotestant, mi wranta',
Y dydd y cai wisgoedd da;
Ac yn hon sai'n ddigon sad,
F'allai, tra pery'r dillad.

Os cywir y desgrifiad canlynol gallem feddwl fod gwrthddrch y gân yn ddychryn i holl blant yr ardal, a'i fod yn fwgan brain" heb ei fath:—

Er pan aeth y gwr ffraethlwm.
Yn llwyd, a'i siaced yn llwm,
Ofnodd plant, fwgan mantach,
Diangodd, ymgrynodd naw gwrach;
A'r adar siomgar y sydd,
Gwylltion yn eitha'r gelltydd;
Caem glywed bran yn canu,
Weddaid o fyd, ddydd a fu,
Neu crechwen cornchwigl grochwyllt,
A gwaedd y wawch, a gwydd wyllt;
Nid oes piogen heno,
Na bran, o amgylch ein bro;
O ran ei lun, a'i wrthuned,
Pob gwâr o'r adar a red.

Diwedda gyda rhestr o'r dillad yr oedd Wil mewn angen am danynt, Ceir yn y gân hon lawer o ddonioldeb a phertrwydd, ond nid cystal barddoniaeth ag a geir mewn darnau eraill o waith yr awdwr, ac y mae ynddi aml i wall cynghaneddol