Tra yn sôn am y Bol Haul, dylem grybwyll i Llewelyn Ddu gyfansoddi Carnfan iddo, "pan ataliodd Panwr y Brethyn yn y Pandy, a ddarpar— wyd iddo gan Mrs. Wynne, o Fodewryd, yn ol deisyfiad y cywydd i ofyn dillad." Am Mrs. Wynne, rhoddwr y brethyn, dywed:—
Gwraig foneddig, fwyn ei rhyw,
I'r hon bo Duw yn dalwr,
Addawodd y gar'digol ged,
Roi siaced imi o swcwr.
Ac am siomedigaeth Wil oherwydd ymddygiad y Panwr, dywed:—
Mae'r hin yn oer, a'r gaua'n faith,
Rwy'n ofni gwaith physygwr:
Ond gwell a fyddai i oer ei wên,
Adeilad rhyw hea dailiwr;
Caf ddiwedd feinioes yn ddi os,
Yn poeni achos Panwr.
Y mae gan y bardd hefyd ddau ddarn rhyddiaethol yn nglyn â'r un gwrthddrych, sef "Galarnad Bol Haul y Twrnai, a ysigodd ei fraich ysgrifenu; ac hyd eitha gwybodaeth llawer o hen wragedd cyfarwydd fe fydd farw'n gelain oer ar fyr amser;" ac hefyd "The Petition of the famous Bol Haul, when his Landlord distrained him for rent, 1740." Yn y darnau hyn ceir cryn dipyn o arabedd a gwatwareg, ac aml i frawddeg hynod o ddichwaeth. Nis gallwn ddirnad paham yr oedd y bardd yn dweyd cymaint dros, ac am y William Dafydd hwn; dichon fod rhyw gysylltiad rhyngddynt nad oes genym gofnodiad am dano.
Yn Y Geninen am 1884. t.d. 236, ceir "Caniad y Gog, neu Gariadgerdd Nansi Llwyd," a dywedir mai Lewys Morys ydoedd ei hawdwr. Cafwyd y gân yn mysg llawysgrifau a berthynent unwaith i Morgan Dafydd, clochydd Llanfachraeth, Meirion.