Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Monwyson.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond pan êl ymlaen i gyfeirio at weddwon ac epil y lladron, rhydd fynegiad i deimladau sydd yn dangos mai ychydig iawn o drugaredd ellid ddisgwyl oddiwrtho :-

Fe dal yr Arglwydd i'r ysprêd
A wnaeth y weithred dywyll-
Yspeilio'r llong, a gwylltio'r gwŷr,
Didostur yn y distyll.

Ond pan êl ymlaen i gyfeirio at weddwon ac epil y lladron, rhydd fynegiad i deimladau sydd yn dangos mai ychydig iawn o drugaredd ellid ddisgwyl oddiwrtho :-

Gweddwon oll ac oer eu tôn,
Fo gwragedd lladron Crigyll.

Bo eisieu bwyd, o'r bais i'r bedd,
Ar epil gwragedd Crigyll.

Eithaf peth oedd cospi y môr-ladron eu hunain, ond nid llawer fuasai yn dymuno i'w gweddwon fod yn "oer eu tôn," a'u hepil yn newynog. Yn y Cywydd y Wrach ddigywilydd," sef y Cryd, y mae y bardd yn chwareu ar y gair "gwrach," neu "wrach,"-terfyna pob llinell gyda'r un odl, a phob yn ail linell gyda'r gair "gwrach" neu "wrach." Cyfansoddiad o'r un natur yw y "Canu a gânt Llewelyn Ddu, tros ei frawd Gwilym, i Wig, Llanfigel, yn Mon, yn ei feddiant ef." Yn y gân hon y mae y geiriau Llanfigel" a "mêl" (neu "fel") yn diweddu bob yn ail linell. Y mae llawer o gywreinrwydd yn y darnau hyn, ac y mae y gynghanedd yn bur gywir, ond isel yw eu teilyngdod os eir i chwilio am farddoniaeth ynddynt.

Darn arall digon difudd yw "Deg Gorchymyn y Traws Cyfoethog Annrhugarog, y rhai ni lefarodd Duw wrth Moses yn y Mynydd." Rhyw gellwair y mae y bardd yn hwn, fel mewn aml un o'i gyfan- soddiadau eraill. Digon yw dyfynu un penill fel enghraipht o'r gwaith:-