Ni ddaeth ond dau gyfansoddiad i law, yn dwyn ffugenwau Emerson a Llewelyn Wyn.
Traithawd byr, rhy fyr, yw yr eiddo Emerson. Nid yw yn gwbl ddiwall yn ei sillebiaeth na'i ramadeg; ond eto y mae ei ddiwyg lenyddol ar y cyfan yn un deilwng iawn. Y mae yn amgen llenor na'i gyd-gystadleuydd; o leiaf y mae yn dangos llawer mwy o drafferth i ffurfio brawddegau llyfn, coeth, a chryfion nag ef. Ond y mae y traithawd yn llawer rhy fyr mewn cystadleuaeth o bwysigrwydd hon. Mae traithawd Llewelyn Wyn yn un maith a llafurfawr. Y mae yn cynwys 352 o dudalenau, ac wedi ei ysgrifenu yn rhwydd a darllenadwy, heb ymgais o gwbl at gaboli ei frawddegau. Mae rhai brychau yn ei iaith a'i sillebiaeth yntau y dylasai, ac y gallasai, fod hebddynt. Dengys radd helaeth iawn o wybodaeth am y gwŷr enwog yr ysgrifena am danynt, ac y mae wedi trethu yn drwm holl fyd y llenyddiaeth sydd yn dwyn perthynas â'i destyn. Teimlwn y gallasai adael llawer o'i ddyfyniadau allan, a d'od a mwy o'i feirniadaeth ei hun i mewn. Eto, y mie traithawd Llewelyn Wyn, parthed ei gynllun a'i weithiad allan, yn tra rhagori ar yr eiddo Emerson, ac ystyriwn ei fod yn deilwng o'r wobr. Ar air a chydwybod.
BEIRNIADAETH DEWI MON.
Ni dderbyniwyd ond dau draithawd ar y testyn dyddorol hwn, sef yr eiddo Emerson a Llewelyn Wyn. Rhaid i mi addef fy mod yn teimlo yn siomedig na buasai mwy wedi cynyg; ond dichon fod byrdra yr amser yn cyfrif i raddau—am hyn. Nis gellir gwneud cyfiawnder â'r fath destyn mewn ychydig fisoedd oddigerth fod gan ddyn gryn lawer o oriau hamddenol ar ei law.
Emerson.-Cynwysa y traithawd hwn ddau a thriugain o dudalenau (foolscap). Rhy fyr o lawer. Dengys yr awdwr gydnabyddiaeth led helaeth â'r testyn. Dyry lawer o ddyfyniadau o weithiau y Monwyson ac awduron eraill. Ond prin y gellir galw y gwaith yn "draithawd beirniadol" o gwbl, yn gymaint nad yw yr awdwr yn rhoddi ond pur