ychydig o'i farn ei hun am y gwŷr enwog a ddarlunir ganddo.
Llewelyn Wyn.—Cynwysa y traithawd hwn 352 o dudalenau. Y mae ôl ymchwiliad a llafur yn y cyfansoddiad o'r dechreu i'r diwedd. Ymddengys i'r awdwr gasglu cryn lawer o ddefnyddiau at ei bwrpas, ac y mae ar y cyfan wedi gwneud defnydd priodol ohonynt. Cawn gipdrem glir ar fywydau y Monwyson (yn enwedig yr enwocaf ohonynt, Lewis Morris), a dyfyniadau digon cyflawn o'u gweithiau i ddangos eu neillduolion fel awdwyr; ac yn ychwanegol at hyn rhoddir i ni farn rhai o'r llenorion blaenaf am eu teilyngdod. Ond nid yw yr awdwr wedi rhwymo ei hun wrth farn neb pa bynag. Meddylia drosto ei hun, a dyry it ni ffrwyth ei fyfyrdodau mewn iaith goeth a darllenadwy. Y bai mwyaf a nodwn yw arwydd brys. Dichon mai diffyg amser yw y rheswm am hyn. Fodd bynag, cynghorwn yr awdwr i ail ysgrifenu ei draithawd yn fanwl cyn ei anfon i'r wasg. Wedi hyny bydd yn flasus-fwyd o'r fath a fwynha pob Cymro sydd yn cymeryd dyddordeb yn hanes llenyddiaeth ei wlad. Rhodder y wobr i Llewelyn Wyn.
Ar air a chydwybod.