Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Pigion.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

</poem> CYDGAN. Llu yn flin a bronau pruddaidd, Yn ein byd pleserus sy'; Lefant lawer noson oeraidd,- "Wnewch chwi brynu'm blodau cu?" Llif dynoliaeth fel rhyw afon Heibio iddi'n myned sydd, Mor ddiystyr o'r tryloewon Ddagrau yn ei llygaid prudd; Ac o'r cur a'r dwys och'neidio Drwy yr oriau maith a du, O! gwrandewch hi'n taerach weddïo,- "Wnewch chwi brynu'm blodau cu ? Llu yn fin, &c. Nid oes ganddi fodd gael llety- Phrynodd neb o'i blodau hi; Ni cha'dd damaid mewn tosturi I liniaru newyn du. Teulu cyfoeth-lu urddasol, Ni wrandawant ar ei chri, Byddar y'nt i'r gri fron-rwygol,- "Wnewch chwi brynu'm blodau cu?" Llu yn fir, &c. Crio, crio bu yr eneth Yn flinderog drwy y dydd. Ond daeth terfyn ar ei halaeth Ca'dd o'i drygfyd fyn'd yn rhydd; Tranoeth caed wrth ddrws palasdy 'Reneth dlawd-bu farw hi; Aeth i'r nef dan sibrwd canu, "Wnewch chwi brynu'm blodau cu!" Llu yn fin, &:. Q </poem>