Os niwloedd anwybodaeth 'nawr
Sy'n dallu eich golygon,
A rhu y stormydd certh o draw
Yn peri braw i'ch calon;
Yn wrol mynwch roddi cam
Ymlaen, er baich eich ofnau,
Tawela'r stormydd-chwâl y niwl
Can's "deuparth gwaith yw dechreu."
Ymlaen, ymlaen, a mynwn fod
Fel heulwen dêr yn amlwg
Yn wybren moes; a'n coron fri
Byth geidw'r byd mewn golwg.
Ymlaen yn wrol gyda nerth
Yn llaw diwydrwydd goleu
A chofiwn os am fod o werth
Mai "deuparth gwaith yw dechreu."
FY NGHARIAD YDYW HONO.
Gan E. Lloyd Griffiths, Portland, Oregon.
'Rwyf heddyw'n mhell o dir fy ngwlad,
Ar lanau'r mor Tawelog.
Lle mae dyffrynoedd glws a mad
A hinsawdd braf ardderchog;
Ceir yma flodau hardd eu llun,
Ond Cymru lan sy'n curo
Mae yuo flod'yn gwylaidd cun:
Fy nghariad ydyw hono.
Ceir yma adar o bob lliw
Yn syw eu golwg swynol,
Yn hedfan dros y dolydd gwiw
Ar foreu teg a hwyrol;
Ac yn y wig mae odlau mwyn
Yn llawn o swyn yn cordio,
Ond mil melusach llais y fün:
Fy nghariad ydyw hono.
Q
Tudalen:Y Pigion.djvu/15
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto