Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Pigion.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

AELWYD Y MEDDWYN.
Gan Gwenfab, Bala.
(CYFLWYNEDIG I ADRODDWYR.)
Ddarllawydd parchus, goludog a chlyd,'
Gâd aelwyd gysurus dy balas drud,
A mi a'th arweiniaf, gribddeiliwr call,
I weled aelwyd y meddwyn dall;
A chymer i'th ganlyn dy deulu urddasol
I weled effeithiau dy fasnach ddinystriol;
Lle mae plant newynog, â chefnau noethion,
A delw marwolaeth ar ei gruddiau llwydion;
Diflana dy urddas, ddarllawydd parchedig,
Yn ngolwg adfeilion eu cartref damnedig.
Gwahoddaf dithau, gymedrolwr call,
I wel'd yr aelwyd hon, rhag ofn y gall
Dy aelwyd di, sydd heddyw'n aelwyd lon,
Fod, cyn bo hir, 'run fath a'r aelwyd hon;
Bu'r aelwyd yma unwaith, gyfaill glân,
Yn gartref serch a chariad a chân;
Bu'r meddwyn hwn unwaith lawn gystal dyn
I'w wraig a'i blant ag ydwyt ti dy hun;
Ond wrth ymarfer gyda gwydryn bach,
Yn nghwmni cyfaill, neu pan ddim yn iach,
Fe dyfodd blys, ar halog allor chwant-
Aberthodd ef ei hun, ei wraig a'i blant;
Nid oes yn awr, ar yr hen aelwyd erch
Yn aros, dim ond cariad rhyfedd merch,
Mae cariad hon, fel gloew seren dlos,
Yn aros ar derfynau prudd tragwyddol nos.
Ond O! mae hithau, fu mor deg ei grudd,
Yn rhyw ddelw syn o anobaith prudd;
Ar wely gwellt, ar yr aelwyd oer,
Gorwedda ei baban yn welw oer;
Mae hithau yn syllu mewn breuddwyd syn
Ar wyneb angylaidd ei baban gwyn,
Q