A gwenodd y bychan yn ei gwyneb gwelw,
A chauodd eu lygaid yn dawel i farw;
Yn nghwmni angylion esgynodd y plentyn
I fynwes yr Iesu, o aelwyd y meddwyn.
Mae'n haner nos, hen gloc y dref
Sy'n taraw'r nodau trymion,
A threiddia'r swn trwy wynt y nef
Fel trydan dwfn ysbrydion;
A'r swn à fel picellau erch
Trwy galon merch siomedig,
A chorff ei baban wasga'n nes
I'w mynwes ddychrynedig.
Druenus fam ar aelwyd oer,
Yn disgwyl am ei phriod;
Mae'n disgwyl clywed swn ei droed,
Mae'n ofni iddo ddyfod;
Am nad all ddisgwyl pan y daw
Ond cabledd a bygythion,
Ac yn eu cwsg ei thyner blant
Freuddwydiant am felldithion.
Mae'n d'od mae'n d'od at ddrws y ty
Yn nghwmni haid o feddwon,
A ruthra i fewn i wydd ei wraig
Yn swn rhegfeydd a llwon;
Uwch gwelw gorff ei faban gwyw
Fe gabla Dduw heb ofni,
O! aelwyd brudd, hen gartref serch
Yn drigfan erch trueni.
Ei briod grynedig, wywedig ei gwedd,
Hiraetha, weddia, am gysgod y bedd,
A'r plant a ymguddiant o olwg eu tad,
Fel pe byddai'n ellyll uffernol ei frad;
A thyfant i fyny heb wybod beth yw
Llawenydd, na gobaith, nac addysg, na Duw,
Rhyw auaf diddiwedd, a nos, a hirnos oer,
Sy' ar aelwyd y meddwyn heb seren na lloer;
Ymgauodd anobaith o amgylch y fan
Yn fôr o drueni, heb ynys na glan.
Q
Tudalen:Y Pigion.djvu/20
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto