BREUOLDEB BYWYD.
Gan D. H. Jones, Seattle, Wash.
Tra aderyn yn ehedeg ar ei aden gref,
Saeth o rywle yn ddiatreg a'i trywanodd ef:
Myned wnaeth yn archolledig, draw i gwr y llwyn,
Yno dan y dail caredig trengodd yn ddigwyn.
Tra morwynig dlos yn rhodio, yn mraich iechyd llawn,
Daeth awelon siomiant heibio iddi un prydnawn;
Cilio wnaeth i gôl unigedd, aeth ei "dydd" yn "nos,"
Plygodd megys cangen laswedd, gwywodd fel y rhos.
Llanc gor-hoew, llawn o afiaeth, arlun byw o ffydd,
"Saeth" o fwa profedigaeth wnaeth ei wedd yn brudd;
Mwy, ymddengys ei holl fywyd fel oer ddelw siom,
Trwy y byd yn hunan-alltud llusga gadwen drom.
Ar hyd pont ddi-ganllaw amser, uwch tragwyddol don,
Mae yn teithio yn ddi-leufer trwy gynorthwyo ffon;
Ar ei rudd mae'r dwfn linellau yn dyfnhau bob dydd,
Gwan gysgodion yn't o'r rhychau yn ei galon sydd.
'Rol cyn'afa defnydd mwyniant o dan lawer croes,
Er mwyn cael mewn pur adloniant dreulio gauaf oes:
Mynych gwelir heulwen bywyd pan ar ganol dydd,
Draw o'n gwydd yn dechreu machlud tua'r gorwel prudd.
Lluaws oeddynt ddoe yn nwyfus, fel têr chwäon haf,
Heddyw welir yn adfydus ar welyau'n glaf;
'Foru rhydiant y dwfn gulfor rhwng y tonau caeth,
Ant i anweladwy oror yr ysbrydol draeth.
AMSER.
Gan Pabellwyson, Cwmbwrla.
Hwyr a bore y cread-yn ei hyd
Ydyw amser-tarddiad
Yw i'm hoedl, ac anadliad
Byr yw o'n bythol barhad.
Q
Tudalen:Y Pigion.djvu/22
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto