Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Pigion.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Y TROELLWYNT A'I DDIFROD.
Gan y Parch. T. C. Benjamin, Pittsburgh, Pa.
CYFLWYNEDIG I ADRODDWYR.
Acw ar ogwydd y creigiau-echrys,
Ceir dychryn fel angau,
A'i law gul yn halog wau
Ei oer gur ar eu gwarau!
Uwch y ddinas wech oedd enwog-ei hanes
A'i hyni godidog,
Cymylau fel creigiau crog-ymgasglant
Yn llu, a'u tremiant mewn dulliau tremiog!
O un man ceir un ail mynydd-yn dod
Yn dalp ar adenydd
O drydan, fel rhan yn rhydd
O law ei ddeddfol Llywydd.
Och! yn awr daw un arall
O'i hynt llym i bwynt y llall,
A'i rawd yn llawn o drydan,
A'i fywyd oll yn fyw o dân!
Rodau asurol! yn frwd o soriant
Y ddau erch gwmwl mewn nifwl nofiant
Diau i'w gilydd, a llidiog hwyliant
I wneud eu dinystr, a'u nwydau daniant
Y nefoedd, a gwarafant,-ei bronau
A'i chywir nenau o'i gwedd ddychrynant!
Taran uwch taran glywid yn tori,
A'r wybr uchel yn briwio a brochi,
A llid dir tán y mellt yn twyni
Yn groch wynias, a'r nef yn gwreichioni,
A didawl ddig yn dodi-awch bariaeth
A thân gelyniaeth yn ei goleuni !!
Colofn fawr, erfawr, hirfaith,-uwch y dref,
Yn erch drum o ddylaith,
Neu wefr dwys, a saif ar daith,
A'i hagweddiad fel goddaith!!
Q