Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Pigion.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

CYNGHORGERDD.
I BREGETHWYR IEUAINC CYMRU.
Gan Gwilym Wyn, Cwmllynfell.
Gyfeillion ieuaine sydd a'ch bryd
I droi o'n plith i droi y byd,
Dymunwn grybwyll gair neu ddau
A fyddo'n foddion i'ch cryfhau,-
Eich cynal hefyd ar eich taith,
A'ch calonogi at y gwaith-
Y gwaith pwysicaf fedd yr oes,
Yw sefyll dros y "Nef a'r Groes."
Bydd temtasiynau yn ddiri',
Fel llewod ar eich llwybrau chwi―
Yn cynyg at y manau gwan,
I geisio'ch rhwystro'i fyn'd i'r lan:
Gofalwch gadw' fewn y ffin,
Nac ymddiriedwch yn eich hun,
Ond sugnwch gymhorth oddi fry,
Fel hyny daw y gwan yn gry.
Daw'r byd yn llawn hudoliaeth gau,
I wneyd ei oreu i'ch llesghau,
Drwy gynyg hyn. a dal y llall,
Ond cilwch rhag teganan'r fall:
Pleserau'r gelyn nid yn't ddim,
Ond twyllwyr i ladrata'ch grym-
Wrth gymdeithasu gyda'r gwir,
Yw'r unig ffordd am fywyd pur.
Mae buchedd yn pregethu'n uwch
Yn nghlust y byd na dim a glywch;
Mae erbyn heddyw'n ormod dydd,
I ollwng tafod neb yn rhydd,
Os na fydd calon onest gref
Yn tystiolaethu gydag ef;
Ac wrthych, frodyr hoff, 'rwy'n dweud
Cydgordio fyddo'ch dweud a'ch gwneud.
Q