Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Pigion.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BYDDIN OLA'R BYD.
Cyfieithiad o "Army of the Rear," gan Philos.[1]

Gwrandewais ar y miwsig, a'r holl rialtwch fu
Gan rengau blaen cymdeithas drwy'r flwyddyn Jiwbili;
Ond pell uwch twrf yr udgyrn, a'r holl floeddiadau i gyd,
Mi glywais dramp y dyrfa fawr sy'n Myddin Ola'r Byd.
Tramp! tramp! tramp!
Heb orphwys, hedd na hud,
Tarandwrf gwibiaid croenllwm, swn Byddin Ola'r Byd.

Mi glywais swn herfeiddio gan wyr mewn tlodi a chwys,
Mi glywais wragedd truain yn canu "Can y Crys;"
Swn gormes a chaethiwed, swn gwae a gweddi 'nghyd
A gododd fel taranau o Fyddin Ola'r Byd.
Tramp! tramp! tramp!
Mae'n chwyddo, chwyddo o hyd,—
Swn parotoi i ddial,—twrf Byddin Ola'r Byd.

'Rwy'n hwtio'r cam a welaf mor fynych ar bob tu,
A swn y fyddin hono—fel miwsig yw i mi;
Dychrynllyd yw'r gerddoriaeth hon, fel storm yn bwrw'i llid,
Pan roddo Duw'r cyweirnod i Fyddin Ola'r Byd.
Tramp! tramp! tramp!
Mewn ing ac angau pyd,
Blinedig ydyw'r ymdaith yn Myddin Ola'r Byd.

Mi sylwais ar y mawrion, eu hen a'u huchel drâs,
Eu heurog goffrau llawnion, a'u heang diroedd bras;
Mi sylwais ar eu gwragedd a'u penau'n berlau drud,
Ac yna es yn filwr i Fyddin Ola'r Byd.
Tramp! tramp! tramp!
Nid felly bydd o hyd,
Fy mrodyr a'm chwiorydd o Frwydr Ola'r Byd.

Mi welais fythod tlodion, rhy wael i ddynol gnawd,
A Pharadwysau Mamon, gan aur y tlodion wnawd;
Dinasoedd a phentrefi, mi a'i gwelais yma i gyd,
A thyngais farw'n filwr yn Myddin Ola'r Byd.
Tramp! tramp! tramp!
Cynyddu mae y llid,—
Mae'n werth cael byw a marw yn Myddin Waela'r Byd.


  1. My Army o My Army gan Henry Lawson cyf Phillip Charles Davies (Philos o'r Cwm)