Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Yr oedd o yn deyd ei fod yn meddwl ych bod chi—dwi ddim yn leicio deyd, syr. "

"Paid ofni deyd y gwir."

"Wel, yr oedd o yn deyd ei fod yn meddwl ych bod ch'i yn y nghadw i yn rhy glòs!

"Ho, ai dyne'r cwbl," ebe Rhodric yn siomedigaethus, a dilynwyd hyn â dystawrwydd megys yspaid haner awr. Pan oedd Bob yn myned i'w ginio, dywedai ei feistr wrtho,

"Bob, 'does yma ddim rhyw lawer o daro heddyw p'nawn, ac mi elli gymryd hanner gŵyl os leici di, â fory hefyd ran hyny os oes gan dy dad rywbeth i ti i neyd."

Thenciw, syr," ebe Bob, wedi ennill ei bwynt tu hwnt i'w ddysgwyliad; a'i feistr o'r ochr arall yn tybied ei fod wedi gwneyd good stroke of policy.

Hyfrydwch o'r mwyaf bob amser oedd gan Mrs. Jones y shop groesawu a llettya pawb a fyddent yn dwyn cysylltiad uniongyrchol â'r achos; ac nid ydyw ond gonestrwydd ynom i ddyweyd fod ei sirioldeb a'i chroesaw wedi cyrhaedd eu pwynt uchaf pan dderbyniodd hi y cenadon dros y Cyfarfod Misol oddeutu awr cyn yr adeg yr oeddynt i fyned i'r cyfarfod eglwysig i ddewis blaenoriaid. Yr oedd Mrs. Jones yn dra naturiol yn ystyried fod y diwrnod wedi dyfod, yr hwn a ddylasai fod wedi dyfod yn llawer cynt, i osod yr anrhydedd hwnw ' ar ei gŵr, yr hwn o bawb, fel y credai hi, oedd yn ei deilyngu fwyaf. Yr oedd yr hyfrydwch yr oedd hi yn ei deimlo am fod y