Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diwrnod wedi dyfod o'r diwedd, i'w ganfod yn ei holl ysgogiadau, ac i'w weled a'i brofi yn y tê a'r danteithion a osodid o flaen y brodyr dyeithr. Ond yn hollol fel arall y teimlai Mr. Jones. Ni fu gas ganddo erioed o'r blaen weled na phregethwr na blaenor yn dyfod i'w dŷ; ac achlysur eu dyfodiad yn unig a barai iddo edrych arnynt felly y tro hwn. Yr oedd golwg ysmala arno y noson hono. Ni fedrai eistedd yn llonydd am fynyd. Cerddai yn ol a blaen, i mewn ac allan, fel pe buasai yn chwilio am rywbeth ac na wyddai beth oedd. Ceisiodd wneyd pob esgus a chreu pob rhwystr, rhag myned i'r capel y noson hono, ond yn aflwyddianus. Buasai yn dda ganddo glywed fod anghaffael ar y ceffyl, neu ryw anhwyldeb ar y fuwch, neu ynte weled trafaeliwr yn dyfod i'r shop y buasai yn rhaid iddo aros gydag ef. Ond yr oedd ei holl ddymuniadau yn ofer, a bu raid iddo fyned i'r capel gyda y cenadon. Nid oedd ei sefyllfa ronyn gwell wedi iddo fyned i'r capel. Teimlai boethder annyoddefol yn ei ben, a rhyw anesmwythder mawr yn ei du mewn, yn enwedig yn nghymydogaeth ei galon. Meddyliodd fwy nag unwaith ei fod wedi cael clefyd, a phenderfynodd lawer gwaith fyned allan; ond er hyny arosodd yn yr un fan. Ni welodd erioed gyfarfod mor faith, ac ychydig, os dim, a wyddai beth a ddywedid yno.

Yr oedd y cyfarfod yn un neillduol o liosog. Yr oedd yno rai na welwyd yn y seiat ganol yr wythnos er ys blynyddau, ac amryw na wyddid yn iawn a