Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oeddynt yn aelodau ai peidio, yn awr yn profi eu haelodaeth. Ni chymerodd dim neillduol le oddigerth gwaith Gwen Rolant yn mynu cael dyweyd yn hytrach nag ysgrifenu i bwy yr oedd hi yn votio, yr hyn a wnaeth mewn llais lled uchel. Hysbyswyd gan y cenadon, er fod deg wedi cael eu henwi, mai tri oeddynt wedi cael y nifer angenrheidiol o bleidleisiau, sef Mr. Jones y shop, Mr. Peter Watcyn, a Mr. James Humphreys. Yr oedd William Thomas yn eistedd yn nghongl y sêdd fawr â'i ben patriarchaidd yn pwyso ar ei law. Ar dderbyniad y newydd, cauodd ei lygaid ac ymdaenai diolchgarwch dros ei wyneb, fel pe buasai yn dyweyd, " Yr awrhon, Arglwydd, y gollyngi dy was," âc. Yr oedd yno wyneb arall yn y gynnull eidfa ag oedd yn ffurfio gwrthgyferbyniad hollol i wyneb William Thomas, a'r wyneb hwnw oedd yr eiddo George Rhodric!