Ni fu erioed dri gŵr mor wahanol i'w gilydd o ran cymeriadau â Mr. Jones y shop, Peter Watcyn, a James Humphreys, er y rhaid fod ynddynt rywbeth cydnaws a thebyg, ac onidê ni ddewisasid hwynt, tybed, gan yr un corff o bobl. Yr oedd Mr. Jones yn ŵr hynaws a bywiog, ac yn meddu ar gryn lawer o adnabyddiaeth o'r byd, yn dda arno o ran ei amgylchiadau, yn haelfrydig yn ei roddion, ac yn llawn awydd i wneuthur daioni; ond eto yr oedd rhyw ledneisrwydd ynddo ag oedd yn ei gadw yn ol oddiwrth bethau cyhoeddus i raddau mawr. Dyn yr un drychfeddwl ydoedd Peter Watcyn. Fel y dywedwyd o'r blaen, yr oedd efe yn cael y gair ei fod yn deall Saesoneg yn dda, ac yn gwybod y gwybodaethau tu hwnt i'w gyfoedion. Ond pwnc mawr Peter Watcyn oedd canu; ac yr oedd cerddoriaeth wedi cymeryd cymaint o'i fryd fel nad allai edrych ar ddim bron ond trwy farrau yr erwydd, na rhoddi ei farn ar ddim ond wrth sŵn y pitchfork. Ymha le bynag y gwelem ef, pa un ai ar yr heol, neu yn ei dŷ ei hun, neu yn y capel, yr oedd y geiriau "Hen Nodiant" a "Tonic Sol-ffa " yn dyfod i'n meddwl er ein gwaethaf. Heb i ni mewn un modd amcanu gwneuthur cam âg ef, yr ydym yn meddwl y cafodd llawer pregethwr le cryf i gredu fod Peter yn cael mwy o bleser yn Llyfr Ieuan Gwyllt nag yn y bregeth, ië nag hyd yn nod yn y Bibl ar y pryd. Gwr diddysg, hywaeth a diniwed, ydoedd James Humphreys, ac mewn gwth o oedran. Gloŵr ydoedd wrth ei alwedigaeth; a bu raid iddo ddisgyn i waelod
Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/104
Gwedd