Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y pwll glo cyn derbyn dim addysg ond a gawsai yn yr Ysgol Sabbothol. Càn gynted ag y cafodd fyn'd ar ei "bige," ys dywed y glowyr, priododd, a bendithiwyd ef âg amryw o blant, y rhai, yn ol ei allu, a ddygodd i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Yr oedd galluoedd ei feddwl mor fychain, yn enwedig yn ei olwg ei hun, fel mai anfynych yr anturiai ddyweyd ei farn ar unrhyw bwnc. Ni byddai byth yn cymeryd gafael mewn newyddiadur; ac anfynych yr edrychai ar unrhyw lyfr oddieithr y Bibl, Esboniad James Hughes, a Geiriadur Charles. Yr oedd ei ffydd yn y natur ddynol yn ymylu bron ar blentynrwydd, a buasai agos can hawsed i ddyhiryn ei dwyllo â thwyllo baban. Yr oedd James Humphreys yn un o'r dynion hyny sydd yn peri i un feddwl na wyddant ddim am lygredigaeth y natur ddynol, oni bae eu bod hwy eu hunain yn cwyno yn barhâus o'i herwydd. Yr oedd ei holl fyd yn gynnwysedig yn eu deulu, y gwaith glo, a'r capel; ac o angenrheidrwydd yr oedd ei wybodaeth yn gyfyngedig iawn. Ac eto pan âi James Humphreys ar ei liniau, yr oeddym yn gorfod teimlo ein hunain yn fychain a llygredig yn ei ymyl, a'i fod yn meddu yr allwedd a allai agor dôr y byd ysbrydol. O ddyn dedwydd! pa sawl gwaith y buom yn cenfigenu wrthyt? Ar nos Sadwrn, yn dy fwtri dlawd, pan ymolchit ac y glanheid dy hun oddiwrth barddu a baw y pwll glo, yr oeddit ar yr un pryd yn golchi ymaith olion yr wythnos a gofalon y byd oddiar dy feddwl, a'th ysbryd yn ymadnewyddu ac yn dyheu am y Sabboth,