Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hwn a wnaethpwyd er mwyn dyn? Os gwael ac anfedrus a fyddai y pregethwr, pa wahaniaeth a wnai hyny i James Humphreys? Yr oedd ei ystymog ysbrydol â'r fath awch arni fel y byddai yr ymborth mwyaf cyffredin yn flasus ac yn ddanteithiol ganddo. Nid oedd na shop, na fferm, na bargeinion, un amser yn croesi ei feddwl, nac yn rhwystro iddo wrandaw ar bob gair a ddeuai allan o enau y pregethwr. Ammheuon! ni wyddai efe beth oedd y rhai hyny. Yr oedd ei feddwl yn rhy fychan i ganfod anghysondeb, a'i galon yn rhy lawn o gariad i roddi lle i'r posibl rwydd o hono! Tra yr oedd rhai yn rhy fydol eu meddyliau, ac eraill yn rhy ddifater, ac eraill yn rhy feirniadol, i allu mwynhâu y bregeth, byddai efe yn ei bwyta gyda blas, ac yn myned allan o'r addoldy ar ben ei ddigon. Yn yr Ysgol Sabbothol, drachefn, tra yr oedd eraill yn pendroni ynghylch hanes y seren a ymddangosodd yn y dwyrain, yr oedd efe yn cyflwyno anrhegion o flaen y Mab Bychan, fel ei aur, ei thus, a'i fyrr. Tybygem nas treuliodd efe awr erioed mewn gwagfeddyliau uchelgeisiol; a phan glywodd efe y cenadon dros y Cyfarfod Misol yn cyhoeddi ei fod wedi cael ei ddewis yn flaenor, pa ryfedd iddo ymddangos fel pe buasai wedi ei daro â mellten, ac iddo fethu a chysgu y noson hono, ac mai hon ydoedd y noswaith fwyaf anhapus yn hanes ei fywyd? Ar ei ffordd gartref o'r cyfarfod eglwysig, dywedai Gwen Rolant wrth Rhodric, " Wel, George, a ge'st ti dy blesio heno? Naddo, mi dy wranta, ne y mae yn od iawn gen'i."