Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Yr ydach chi yn gofyn ac yn ateb, " ebe George; " ond am unwaith, beth bynag, yr ydach chi'n ateb yn iawn. Dydw iddim am ragrithio, naddo; chês i mo mhlesio; a waeth gen i pwy gŵyr o. Mae peth' fel hyn yn ddigon a gneyd dyn nad a'i o byth yn agos atyn' nhw. I fod yn flaenor y dyddie yma, rhaid i ddyn fod yn gyfoethog neu yn ddwl; a dydi o ddim ods p'run am wn i. Mae yn dda gen' i nad ydw i yr un o'r ddau. Mae dynion galluog a thalentog, sydd wedi bod yn llafurio ar hyd eu hoes gyda'r achos, yn cael eu taflu o'r naill du rwan; ac un yn cael ei ddewis am fod gyno fo shop, a'r llall yn cael ei ddewis am ei fod o yn debyg i'w nain, a'r trydydd am i fod o yn wyneb galed."

"Aros! aros! George," ebe'r hen wreigan, "paid ti siarad yn rhy ffast. Yr wyt ti yn myn'd ymlaen yn debyg iawn i ddyn wedi cael ei siomi; ac mae gen'i ofn nad wyt ti ddim mewn ysbryd priodol."

"Y fi fy siomi;" ebe Rhodric," mi fase'n o ffiaidd gen'i."

"Wn i p'run am hyny," ebe Gwen; " yr wyt yn cofio stori'r llwynog a'r grawnwin yn well na fi. A pheth arall, pan wela i ddyn yn gneyd ei hun yn o amlwg o flaen amser dewis blaenoriaid, ac yn prynu Dyddiadur, a phethe felly, mi fydda i'n meddwl yr adeg hono fod ei lygad o tua'r sêt fawr. (Edrychodd George arni gyda syndod, ac aeth Gwen ymlaen.) Ac am fod yn gyfoethog, mi faset tithe mor gyfoethog â Mr. Jones, dase ti'n medryd, mi dy wranta di. Ac am