Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod yn debyg i'r nain, mi fase'n dda i lawer fod yn debycach i'w nhain; mi fase gwell graen ar eu crefydd nhw, a rhwbeth fase'n 'u cadw nhw o'r tafarnau. Mi wyddost, George, nad oes dim blew ar y nhafod i, a fedra i ddim dyodde i ti redeg y blaenoriaid newydd i lawr. 'Dwyt ti ddim yn deilwng, wel di, i glymu esgid Mr. Jones fel dyn na christion; ac am James Humphreys, os ydi o'n ddiniwed ac yn ddiddysg, fel fy hunan, mae gyno fo grefydd y bydde'n dda i ti gael marw yn ei chysgod. Ond ddaru minnau, yn wirionedd, ddim votio i Pitar; ac wn i ddim be naeth i'r eglwys ei ddewis o. Mae'r bachgen wedi mwydro'i ben hefo'r canu 'ma, fel na wn i ddim beth i feddwl o hono fo. Pan oeddwn i yn ifanc, cyfarfod gweddi fydde gyno ni am bump o'r gloch p'nawn Sul, i ofyn am fendith ar yr odfa; ond yrwan rhyw 'do, do, sol' sydd gan Pitar a'i griw o flaen yr odfa; ac mae'n anodd gen'i gredu fod y Brenin Mawr yn fwy parod i wrando ar y.'do, do, sol' ma nag ar ddyn ar ei linie. A chyn i Pitar a'i sort gymeryd y canu, un pennill fydde ni'n ganu, a hwnw lawer gwaith drosodd, pan ddoe'r hwyl; ond yrwan, dyn a'm helpio, rhaid canu yr hymn ar ei hyd, a hyny cyn chwyrned a'r gwynt, na wyr neb be mae nhw'n ganu. Chawn ni byth ddiwygiad crefyddol, goelia i, tra bydd yr hen 'do, do, sol' ma'n cael ei rygnu. Ond dydi'r bachgen ond ifanc eto, a 'rydw' i'n gobeithio y caiff o ras i ymgroesi. Pe cae ni un o'r hen ddiwygiadau anwyl eto, ac iddo gael trochfa go lew, mi wranta i y tafle fo 'i 'do, do,