Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mi geit weld ugeiniau yn sisial yn nglustiau 'u gilydd, "W'at pêds? w'at pêds? " hefo'u hen Sasneg. Ydi, mae'r oes wedi newid; ond wyt ti'n meddwl fod Duw wedi newid? 'Iesu Grist, ddoe, heddyw, yr un ac yn dragywydd.' Ddysgest ti erioed mo'r adnod anwyl ene, dywed? Wyt ti'n meddwl mai Duw yn troi i ga'lyn y ffasiwn ydi'n Duw ni? Ni fyrhäodd braich yr Arglwydd fel nad allo achub, ni thrymhäodd ei glust fel na allo glywed; a phan ddêl, efe a argyhoedda y byd o bechod, o gyfiawnder, ac o farn. A phe caet ti, George, weled diwygiad tebyg i'r un a welodd William Thomas a fine, mi neidiet tithe lathen oddiwrth y ddaear, er mor afrosgo wyt ti, ac er balched ydi dy galon.

O na ddeuai'r hên awelon,
Megys yn y dyddiau gynt.'

lë, mi âf trosto fo eto er gwaetha dy "do, do, sol," ebe yr hen wraig zelog, gan ganu nerth ei phen; ac yn canu y gadawodd Rhodric hi. Ond nid oedd dim ysbryd canu yn George Rhodric ei hun; ond yn galon—drom, bendrist, â gwyneb sur a sarug, yr aeth efe i'w dŷ. Pa fodd bynag, heblaw canu Gwen Rolant, rhyw lanco rigymwr siriol ddireidus, a ganodd y noson hono fel hyn:—

George Rhodric, druan, fynai fyn'd i'r top;
Ow! er ei siomiant, rhoddwyd arno stop!
Ond Jones a James a geid o isel fryd,
I fyny â hwy! pleidleisiem bawb i gyd;