Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llythyr fy Nghefnder
Y ddwy ochr i'r cwestiwn

YN awr pan y mae ymron ymhob tref, treflan, cymydogaeth a chwm, ysgoldai cyfleus ac ysgolfeistriaid cymwys i gyfrannu addysg; a phan y mae y School Attendance Officer yn dilyn sodlau ac yn tori ar chwareuon plant gyda eu bod wedi gadael bronau eu mamau, a chyfraith wrth ei gefn i'w gorfodi i fyned dan hyfforddiant; pan nad allwn, fel y dywed rhai, gau ein llygaid ar y ffaith fod yr iaith Saesonaeg yn ymledu ymhob man, yn hydreiddio ein cymoedd, ein cynulleidfaoedd, a'n teuluoedd, ac fod hyd yn nod William Cadwaladr, o'r Tŷ Calch, yn ein hanerch gyda'i "gŵd mornin," a'i "gŵd neit," yn lle bore da, a nos dawch; a bod hyd yn nod Mrs. Prys o'r Siop Fach yn son yn barhâus am yr anghenrheidrwydd am "Inglis Côs "—hwyrach nad annyddorol gan y darllenydd a fydd y llythyr canlynol