Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o eiddo Fred, fy nghefnder, gan ei fod yn traethu ar bwnc pwysig i ni fel Cyfundebau Crefyddol Cymreig. Dylwn ddyweyd fod Fred yn dipyn o wag; ond yr wyf yn credu ei fod yn gristion cywir, yn genedlgarwr, ac yn bendifaddeu, yn enwad-garwr.

—————————————

Llety'r Llenor, Tresaeson

Hydref

FY ANWYL GEFNDER,—

YR wyf wedi cymeryd fy ngwynt yn lled hir cyn ateb dy lythyr; ond yn dâl am hynny cei epistol mor faith y tro hwn fel na fydd arnat anghen am un arall, mi gredaf, am blwc. Gofyn yr oeddit pa fodd yr oedd yr Achos Saesonig yn dyfod ymlaen yma, a pha beth a fy "witchiodd i fwrw fy nghoelbren gyda'r Hengistiaid dienwaededig?" Gan i ti ofyn, a gofyn mewn ffurf nad ydyw, a dyweyd y goreu, yn gefnderol, chwaethach brawdol, yr wyf yn teimlo rhwymedigaeth arnaf gymeryd pwyll, a gosod o dy flaen yn deg sefyllfa pethau ynglŷn â'r Achos Seisonig yn Nhresaeson; ac hefyd adrodd wrthyt am yr hyn a fy "witchiodd" i gymeryd y cam