a gymerais, a fy mhrofiad mewn canlyniad. Gwn dy fod yn Gymro o'r gwraidd i'r brig, ond nid ydwyt waeth am hynny. Rhwng cromfachau, megys, y Cymro ydyw y crefyddwr goreu a welais i hyd yn hyn; a pho fwyaf yr ymrwbiaf yn y Saeson yma, mwyaf oll o grit Cymreig a deimlaf. Wel, y mae Tresaeson yn wahanol iawn i'r hyn ydoedd pan oeddit ti a minnau ystalwm yn myned gyda'n gilydd i'r seiat plant, a phan fyddai dy fam yn gwau hosan wrth fyned i a dyfod o'r capel ar noson waith, a phan fyddai hi adegau eraill yn myned dros nos yng ngwagen Plas Coch i Sasiwn y Bala, a phan nad oedd yn yr Eglwys Sefydledig yma ond gwasanaeth Cymraeg yn unig. Pan ddaeth y railway i'n tref, daeth y Saeson gyda hi i edrych ansawdd y wlad, a chawsant hi, dybygid, yn dda odiaeth, a'i thrigolion yn dra choelgrefyddol, tybygasant hwy. Ymsefydlasant yn ein plith ac adeiladasant dai iddynt eu hunain. Tynasant i lawr ein siopau, a gwnaethant rai mwy, gyda plate glass windows. Nid hir y buont heb ffurfio Gas Company, Mwy o oleuni! meddynt. A'r bobloedd a welsant oleuni mawr. Daethant yma fel Commercial Missionaries; ond yn wahanol i'r cenhadon a anfonwn ni i'r India—yn lle dysgu ein hiaith, gwnaethant i ni ddysgu eu hiaith hwy. A'r barbariaid a fuont garedig iddynt, gan roddi croesaw i'w hefengyl. Dysgasant i ni pa fodd i fyw—pa beth i'w fwyta ac i'w yfed. Toc iawn bu farw ein cyd-drefwr, Mr. Llymru, ac yn fuan wedi hyn cymerwyd ei frawd
Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/122
Gwedd