Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gofidiai, hyn fi yn fawr. Aeth pethau ymlaen yn y modd yma am y rhawg; a deallais yn y man fod yn ein cynulleidfa amryw ieuenctyd heb ddeall ond ychydig o Gymraeg, ac yn treulio eu Sabbothau yn ddifûdd, os nad rhywbeth gwaeth na hynny. Perthynai y dosbarth hwn i'r rhai mwyaf cefnog o'n haelodau, a mwyaf esgeulus am roddi magwraeth grefyddol i'w plant gartref. Deuent i'r moddion yn stately ddigon; ond yr oedd yn amlwg i'r hwn a sylwai ar eu hwynebau gwag, a'u gwaith yn edrych o'u cwmpas yn ystod y moddion, nad oeddynt yn deall ond ychydig o'r bregeth, ac yn hidio llai na hyny. Yr wyf yn meddwl i mi ac eraill wneyd ein rhan i annog rhieni i siarad Cymraeg gartref er mwyn eu plant, gan geisio dangos nad oedd berygl iddynt fod yn waelach Saeson o'r herwydd. Ond y mae arnaf ofn mai ychydig fendith a fu ar ein siarad. Yr wyf yn cofio am un bore Sabboth, pryd yr oedd ein gwasanaethu yr hwn, ti a addefi, a'i gymeryd drwodd a thro, ydyw y pregethwr mwyaf poblogaidd yn sydd yn perthyn i'r Cyfundeb. Odfa anghyffredin ydoedd; un o'r hen odfeuon Cymreig, pryd yr oedd yn orchest peidio gwaeddi "Diolch! " Yr oedd edrych o'r sedd fawr ar y gynulleidfa wedi cael llenwi eu genau â chwerthin a'u llygaid â dagrau, yn fforddio cymaint o fwynhad i mi ag oedd gwrando'r bregeth. Ar fy nghyfer gwelwn ferch ieuanc oddeutu ugain oed, yr hon a wyddwn a gawsai addysg dda, ac a berthynai i'r dosbarth y cyfeiriais ato yn barod. Edrychai fel