Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gymraes ragorol mewn llawer llai na blwyddyn! A rhag i mi anghofio dyweyd hyny eto, mae Miss Jones wedi glynu hyd y dydd hwn wrth yr achos Cymraeg, ac yn aelod ffyddlawn a defnyddiol. Ond nid i'w rhieni y mae diolch am hyny.

Bu cyfaddefiad Miss Jones o'i hanallu i ddeall Cymraeg yn achlysur i mi wneyd ymchwiliad gydag eraill a dybiwn eu bod mewn sefyllfa gyffelyb; a dychrynwyd fi gan y nifer a gyfaddefent yn rhwydd nad oeddynt yn deall ond ychydig o'r hyn a elai ymlaen yn moddion gras. Cefais allan hefyd eu bod yn druenus o anwybodus yn mhethau'r Bibl. Yr oeddwn yn zelog dros y Gymraeg, mor zelog ag wyt tithau yn awr, a thybiais gan i mi lwyddo gyda Miss Jones y gallwn lwyddo gydag eraill. Yr oedd gennyf ffydd yn fy ngallu perswadiol, ac ymegnïais i'w hannog a'u cyfarwyddo i ddysgu eu mamiaith. Ond buan y didwyllwyd fi. Yr oeddynt yn rhy ddifater a mursennaidd i ymgymeryd â dim llafur, ac nid ystyrient fod y game yn werth y gannwyll. Ni wnaeth fy zêl dros y Gymraeg ond peri iddynt fingrychu yn anwesog, a thrydar am "English cause." Beth oedd i'w wneyd? Yn yr ystâd yr oeddynt ynddi, nid oeddynt nemawr well na respectable heathens mewn pethau crefyddol. Pa un ai yn gam ai yn gymwys nis gwn; ond yn fy zêl dywedwn wrthynt mai gwell o lawer, yn hytrach nag ymfodloni ar eu sefyllfa, a fuasai iddynt ymuno â'r Wesleyaid Seisonig, neu ynte fyned i Eglwys Loegr, neu hyd yn nod fyned at y Pabyddion. Edrychent